page 1
page 2
page 3
page 4
page 5
page 6
page 7
page 8
page 9
page 10
page 11
page 12
page 13
page 14

Ac mae'r wers gwyddoniaeth yn mynd ymlaen ... O! Dw i'n agor y ngheg wrth feddwl amdano! " Mae hyn yn achosi cynhesu byd eang. Bla bla bla ..." Does dim gwaeth na chlywed eich athro gwyddoniaeth yn hefru am ailgylchu a chynhesu byd eang, ac yn malu awyr ( Yn llythrennol). Wel, dw i'n gweld dim bai arnoch chi os, wrth weld teitl y dudalen yma, eich bod chi wedi cau'r papur hwn! Ond ... Arhoswch funud!!! Beth am feddwl ychydig mwy ... heb fod yn ddiflas ... O ganlyniad i ailgylchu mi allech chi gael: l Cydwybod clir l Mwy o arian l Mwy o chwarae X- box a gemau eraill l Mwy o haul! l Bywyd hirach l Llai o afiechydon l MWY O AMSER AR Y DDAEAR TRA MAE HI'N HARDD A GWYCH!!! Erbyn hyn, dw i ' di gwylltio braidd! Tydw i na llawer o blant ifanc yr oes yma ddim yn deall pa mor bwysig ydi hi i ni drio helpu! Mae'n rhaid i ni roi cychwyn ffres i'n meddyliau, a meddwl am ail gylchu fel rywbeth positif! Ddim fel rhywbeth diflas, di- ddim! Rydym ni i gyd yn gwybod pa bethau sydd angen eu gwneud i helpu'r byd rwan, dyma atgoffa chi ychydig bach: l Diffodd y golau pan ydych yn mynd o ystafell. l Ailylchu papur, gwydr, poteli, hen ddillad, BOB DIM. l Diffoth eich chwaraewyr DVD a Play- station NID AR STAND-BY!! Dw i'n gwybod ei fod o'n ddiflas ar adegau, ond wrth feddwl am y canlyniad mawr mae o werth o! Ydi hi'n amser i chi gymryd sylw? Plis helpwch! Ni, chi, yw'r dyfodol, os na fydd y genhedlaeth yma'n gwneud rhywbeth, a fydd cenhedlaeth arall?

Dw i ddim yn addo y byddwch chi'n edrych yn union fel Beyonce ar ôl hyn. Byddwch angen o leiaf blwyddyn yn y gampfa a steilydd personol, ond mae'n gychwyn da, ac mae'r gwallt yn ffab ar ôl gorffen! Pob lwc! Rwan, peidiwch â cham- gymryd, nid dweud fod Topshop yn cau ydw i, na dweud wrthym ni beidio siopa yno yn gyfangwbl, ond awgrymu ydw i y dylen ni fod yn ystyried dechrau prynu dillad sy'n iachach i'r byd, y dillad " gwyrdd" hyn fel y'u gelwir, yn enwedig gan mai ninnau bobl ifanc sy'n siopa fwya! edrych fel Beyonce? Ydych chi eisiau Top pinc £ 15 New look Jins " bootcut" £ 25 yn New look www. newlook. co. uk Powdr llygaid £ 3.18 Superdrug Hwdi sbotiog £ 14 New look Lipgloss £ 2.99 Miss Sporty Curl £ 1.59 Boots Cyrlwyr £ 12 Tesco Wel, fel y gwelwch mae yna wisg wych yma, ac i gyd yn iach i'n planed.