page 1
page 2
page 3
page 4
page 5
page 6
page 7
page 8
page 9
page 10
page 11
page 12
page 13
page 14

M ae Cyngor Gwynedd yn ceisio creu cyfundrefn newydd ar gyfer addysg gynradd yng Ngwynedd. Mae'r Cyngor yn dweud fod angen cau 29 ysgol, ffederaleiddio 55 ysgol lawr i greu 18 ysgol ffederal oherwydd: l Mae nifer disgyblion cynradd Gwynedd wedi gostwng dros 9% ers 1996 a hefyd rhagwelir bydd gostyngiad o 9% arall yn ystod y ddegawd nesaf a nid oes digon o arian oherwydd bod yr arian a dderbyniwyd i wario ar addysg plant cynradd yn gostwng. l Hefyd mae Gwynedd yn gwario tua £ 850,000 bob blwyddyn ar 2,400 o lefydd gweigion mewn ysgolion cynradd a choeliwch neu beidio mae disgwyl i'r ffigwr hwn godi i £ 1.2 miliwn, ia £ 1.2 miliwn, yn ystod y blynyddoedd nesaf. l Mae'r Cyngor yn amcangyfrif bydd angen £ 16 miliwn i ddod â'r 106 adeilad ysgol i safon derbyniol er mwyn darparu'r cwricwlwm addysg newydd. Yn fy marn i nid yw hyn yn iawn oherwydd mae'n mynd i gostio mwy o lawer i ffederaleiddio gyda chostau rhai ysgolion newydd a phennaeth newydd i bob ysgol ffederal. Mae angen cyflog ychwanegol iddyn nhw. Rydw i'n cofio fy amser yn Ysgol Gynradd Chwilog gyda Mr. Elias y Prifathro. Roeddwn mewn ysgol fechan o gwmpas hanner cant o blant a thri athro, ac fe gawsom bob chwarae teg. Roedd y Prifathro yn fy adnabod i a'm teulu'n dda. Roedd yn dysgu fy mrawd pan oeddwn i yn nosbarth y babanod ac felly daeth i'n hadnabod ni i gyd yn yr ysgol. Os bydd y Cyngor yn cau ysgolion bach ni fydd yr ysgolion yma mor gartrefol a ni fydd pawb yn adnabod pawb mor dda. A dweud y gwir, dim ond am un diwrnod yr wythnos fydd o'n mynd i ysgol i un safle heb sôn am ddysgu'r plant! Ni fydd sôn am Ysgol Chwilog wedyn dim ond fel rhan o ysgol ffedral gyda thua tri chant o blant. Hon fydd yr ysgol ffederal fwyaf yng Ngwynedd. Fydd y plant yn neb yno! Un ysgol, un wisg, un Prifathro - beth ddaw o bethau fel Eisteddfod yr Urdd wedyn? Dwi'n siwr na fydd cystadlu brwd pan fydd yr ysgolion wedi'u ffederaleiddio chwaith! Mae'r broses ymgynghori yn mynd yn ei blaen ond mae Cyngor Gwynedd yn ddi- wrando ar yr holl brotestiadau. Nid yw'r plant, yr athrawon na'r rhieni eisiau y newid hwn, felly, dw i'n teimlo y dylai'r Cyngor wrando ar yr hyn sydd gan bawb i'w ddweud.

Y gwaith a wneir gyntaf fydd adnewyddu y Bloc Iaith. Er mai dim ond rhyw ugain oed ydyw, fe fydd cryn waith yn cael ei wneud arno i ddod ag ef i'r safon a ddisgwylir bellach. Bydd adeiladwyr yn mynd i mewn i'r ystafelloedd Cymraeg a Saesneg yn syth ym mis Ionawr ac yn dechrau ail- osod ffenestri a'r systemau trydanol a gwresogi. Byddant hefyd yn gosod lifft, toiledau arbennig ac yn lledu'r drysau er mwyn sicrhau mynediad i'r anabl. Bydd y gwaith hwn yn parhau tan y Pasg. Er mwyn ail- gartrefu y dosbarthiadau yr effeithir arnynt, yr ydym yn ail- lunio ac yn ehangu nifer o ystafelloedd a stordai sydd yn yr ysgol er mwyn i ni allu eu defnyddio fel dosbarthiadau yn ystod y gwaith adeiladu. Mae'r gwaith hwn eisoes wedi cychwyn ac yn mynd yn ei flaen yn dda. Ar ôl gorffen gyda'r Bloc Iaith, y gwaith nesaf i'w wneud fydd adnewyddu y Bloc Celf/ Technoleg/ Cerdd a'r Neuadd. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ym mis Mehefin, ar ôl i Flwyddyn 11 orffen eu gwaith cwrs yn y pynciau hynny. Mae sicrwydd na fydd sw^ n o'r gwaith adeiladu yn tarfu ar gyfnod yr arholiadau TGAU. Ail- lunio mewnol fydd yn y rhan hon o'r ysgol ynghyd ag ail- doi ( to fflat unwaith eto gwaetha'r modd) ac adeiladu waliau brics newydd yn lle'r paneli o ffenestri parod sydd yna ar hyn o bryd. Ym mis Medi 2008, byddant yn dymchwel y rhan o'r ysgol i'r dde o'r Neuadd ac yn adeiladu estyniad dau- lawr fwy neu lai ble y mae'r Swyddfa ar hyn o bryd. Bydd y gwaith hwn yn parhau am y rhan fwyaf o'r flwyddyn mae'n debyg. Neuadd Yma yn Ysgol Glan y Môr, mae'r trefniadau i adeiladu ysgol newydd wedi dechrau, a'r £ 4 miliwn o fuddsoddiad a roddwyd i ni yn cael ei ddefnyddio. Diolch i'r prifathro, Mr Gareth Jones, rydym wedi cael gafael ar ran o'r cynlluniau, i roi syniad i chi sut fydd ein hysgol newydd yn edrych: O'r lôn O'r caeau ? Newydd