page 1 page 2 page 3 page 4 page 5 page 6 page 7 page 8 page 9 page 10 page 11 page 12 page 13 page 14
|
... Beth am ichi wneud y smwddi hyfryd yma yn arbennig i gael pori trwy ein cylchgrawn gwych ni, bydd yn eich ymlacio, yn blasu'n dda AC yn iach! Dilynwch y dull... Dryslyd ta be?! Wel, o'r diwedd dyma ni, y pump ohonym wedi gwneud cylchgrawn i bobl ifanc y fro. Mae'n ffres, aeddfed a gwyyyyych! Rydym i gyd yn hoffi darllen cylchgronau ein hunain o " Kerrang" i " Sugar" a hyd yn oed " Pony Mag", ond wrth weld y gystadleuaeth wych yma, roeddem yn teimlo y byddai hyn yn gyfle rhy dda i'w golli. Felly dyma ni yn dechrau, gyda wythnosau araf, a dim llawer yn digwydd… I wneud darllen hwn yn fwy o hwyl ... 1. Cwpan o: Sudd oren ffres Mefus, llys a mafon 1- 2g o fananas wedi rhewi. I gael y bananas i rewi a hylifo'n gynt, tynnwch y croen a thorrwch hwy'n ddarnau bach. Cymysgwch y cynhwysion mewn hylifydd hyd nes ei fod yn dew a llyfn. Mae'r gymysgedd yma yn gwneud un smwddi mawr ffres, iach a blasus! Smwddi Aeron Ceri, Ceri, Elen, Elan, Ilan a Seraaaa! Mae Cyngor Gwynedd wedi dod i benderfyniad i wneud plant Gwynedd yn llawer mwy heini. Maent wedi lansio'r cynllun hwn sef 5x60 fydd yn gwneud yn siwr fod plant/ pobl ifanc yn cadw'n heini a chael cyfle i gymdeithasu â'u ffrindiau. Mae'r enw 5x60 yn golygu eich bod yn gwneud pump gweithgaredd yr wythnos am awr. Cynhelir llawer iawn o bethau yn ystod oriau'r ysgol ac hefyd ar ôl yr Ysgol. Mae cyfle i'r bobl fynd i'r gampfa a hefyd mae posibilrwydd i chi gael gwersi sboncen ac yn well na hynna i gyd mae popeth am ddim! Llun: Pêl rwyd genethod Bl. 7,8,9 Canolfan Hamdden Dwyfor, Cheerleading genethod Bl. 10,11 Y Gampfa, Glan y Môr, Pêl Droed Bechgyn Maes bob tywydd, Canolfan hamdden Dwyfor, Pêl droed Americanaidd ( 1- 1: 30 y. h) Bechgyn Cae Glan y Môr. Mawrth: Hoci genethod Bl. 10,11 Canolfan Hamdden Dwyfor. Mercher: Pel droed Genethod Bl. 7,8,9 Cae Glan y Môr Dawnsio Stryd bechgyn a genethod Bl. 7,8,9,10,11 Y Gampfa, Glan y Môr. Iau: Pêl rwyd Genethod Bl. 10,11 Canolfan Hamdden Dwyfor. Cheerleading Genethod Bl. 7,8,9 Y Gampfa, Glam y Môr. Gwener: Hoci genethod BL. 7,8,9 Canolfan Hamdden Dwyfor. Sboncen Bechgyn Canolfan Hamdden Dwyfor. Dodgeball pawb ( 1: 00- 1: 25 y. h) cyrtiau tu allan, Glan y Môr. Os mynychwch 5 sesiwn neu fwy, o unrhyw un o'r uchod mewn tymor, cewch gyfle i ennill i- pod. Cyfweliad gydag Athrawes Ysgol Glan y Môr:- s Credaf y bydd y cynllun hwn yn llwyddiannus dros ben ac yn annog nifer helaeth o ddisgyblion i ymarfer. u Ydych yn meddwl fod y cynllun hwn yn syniad da? Pam? s Mae hwn yn syniad gwych gan ei fod yn rhoi cyfle i'r disgyblion ddysgu sgiliau newydd a chymdeithasu yr un pryd. Dyma gyfweliad gyda Shoned Owen sef swyddog 5x60 Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Botwnnog:- u Ydych chi yn meddwl fod y cynllun hwn am fod yn un llwyddiannus? s Yndw. Oherwydd mae llawer o blant yn hoffi dechrau pethau gwahanol. u Ydych yn meddwl ei fod yn gynllun da i bobl ifanc? s Ydw. Oherwydd mae'n yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc gadw'n heini. u Beth ydych yn meddwl fydd y weithgaredd fwyaf poblogaidd? s Rydw i yn credu mai'r peth mwyaf poblogaidd fydd y ' DODGEBALL'neu hyd yn oed PEL- DROED AMERICANAIDD ac i'r genod y ' CHEERLEADING'. |